Pecyn Addysgu Creu Newid
Mae’r pecyn addysgu hwn ar gyfer dysgwyr 14-18 oed yn datblygu sgiliau creadigrwydd, datrys problemau, cynllunio a sgiliau addysg cymheiriaid wrth ddysgu am un o ddewis o dair thema fyd-eang. Mae’r sesiynau yn cefnogi dysgwyr hefyd, i gyfrannu at newid cadarnhaol.
Dim ond fersiynau Saesneg o’r adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd.
Gall y pecyn gael ei ddefnyddio’n llawn i gyflwyno elfen Her Dinasyddiaeth Fyd-eang Bagloriaeth Cymru, neu gellir defnyddio unrhyw un o’r gweithdai yn annibynnol.
Trosolwg o’r pecyn CreuNewid: Crynodeb o’r pecyn a sut i’w ddefnyddio
Cyflwynwch y pecyn i’ch dysgwyr gyda’r cyflwyniad byr hwn. Dim ond i’w ddefnyddio gyda’r pecyn llawn
Gweler sesiynau unigol:
Ffoaduriaid
Effaith Ffonau Symudol
Ffasiwn Byd-eang
Sicrhau Newid
Archwilio Tegwch
Lawrlwythiadau ar gyfer y gweithdy i Ffoaduriaid
Mae’r sesiwn hwn yn archwilio’r pwnc ffoaduriaid, ac yn cefnogi dysgwyr i ddeall y derminoleg, cyn cael cyfle i gydymdeimlo â ffoaduriaid drwy storïau unigol. Bydd dysgwyr yn dadansoddi tystiolaeth, i siarad am faterion sy’n ymwneud â ffoaduriaid, ac yn archwilio sut y gall gweithredu ar lefel leol ddarparu cymorth i ffoaduriaid.
Lawrlwythwch holl adnoddau y Gweithdy i Ffoaduriaid
- Cynllun y gweithdy
- Cyflwyniad PowerPoint
- Cwis ffoaduriaid (Gweithgaredd 2)
- Pwy sy’n ffoadur? Cardiau (Gweithgaredd 3)
Lawrlwythiadau ar gyfer y gweithdy Effaith Ffonau Symudol
Mae’r sesiwn hwn yn edrych ar sut mae pobl ifanc yn defnyddio eu ffonau symudol, cyn archwilio effeithiau dynol ac amgylcheddol ffonau symudol. Mae’r sesiwn yn canolbwyntio’n benodol ar Tsieina ac ar Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo. Mae fideos ac enghreifftiau ysbrydoledig yn cefnogi dysgwyr i feddwl am darddiad eu ffonau, a sut y gellir defnyddio ffonau i wneud da.
Lawrlwythwch holl adnoddau’r gweithdy Effaith Ffonau Symudol
- Cynllun y gweithdy
- Cyflwyniad PowerPoint
- Cwis Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo (Gweithgaredd 1)
- Cwis Tsieina (Gweithgaredd 2)
Lawrlwythiadau ar gyfer gweithdy Ffasiwn Rhyngwladol
Mae’r sesiwn hwn yn defnyddio taith pâr o jîns i archwilio effaith ddynol ac amgylcheddol ffasiwn, o gynaeafu’r cropiau i’w golchi a’u gwisgo. Bydd dysgwyr yn darganfod achosion, canlyniadau ac atebion, yn defnyddio ystod o offer datrys problemau a dadansoddi.
Lawrlwythwch holl adnoddau’r gweithdy Ffasiwn Byd-eang
Lawrlwythiadau ar gyfer y gweithdy Sicrhau Newid
Mae’r sesiwn hon yn rhoi cyfle i ddysgwyr gynllunio gweithredu unigol ac ar y cyd yn ymwneud â’r materion sy’n bwysig iddyn nhw. Maen nhw hefyd yn dysgu am, ac yn dechrau cynllunio gweithgareddau dysgu cymheiriaid. Byddant yn cael cyfle i weld enghreifftiau ysbrydoledig o bobl eraill sydd yn sicrhau newid, ac yn myfyrio ar newid maen nhw wedi eu hysgogi eu hunain.
Lawrlwythwch holl adnoddau’r gweithdy Sicrhau Newid
- Cynllun y gweithdy
- Cyflwyniad PowerPoint
- Cardiau gweithredu (gweithgaredd 2)
- Sicrhau Newid (Taflen 1)
- Addysg Cymheiriaid a Hyrwyddiad (Taflen 2)
- A allaf wneud unrhyw beth amdano? Arolwg llinell sylfaen – arolwg dewisol i’w ddefnyddio ar ddechrau’r sesiwn hon, i gael syniad am ba mor rymus mae eich dysgwyr yn teimlo i weithredu a gwneud gwahaniaeth.
- A allaf wneud unrhyw beth amdano? Arolwg Myfyrio – os ydych wedi defnyddio’r arolwg llinell sylfaen, gallwch ddefnyddio’r arolwg myfyrio hwn ar ddiwedd y prosiect i weld a yw dysgwyr yn teimlo wedi’u grymuso mwy i weithredu a gwneud gwahaniaeth.