Sut mae’n gweithio

39284480380_282dc3f1d6_zMae disgyblion yn gweithio mewn grwpiau o 3 fel dirprwyaethau i’r CU. Bydd y rhan fwyaf ohonynt yn chwarae rôl aelod wladwriaeth o’r CU, ond mae rhannau hefyd i wledydd sy’n arsylwi, sefydliadau anllywodraethol, y wasg ryngwladol ac Ysgrifenyddiaeth y CU.

Mae CEWC yn gosod testun ar gyfer y gynhadledd, ac yn darparu gwybodaeth gefndir a chanllawiau mewn sesiwn friffio 3 i 4 wythnos cyn y gynhadledd. Bydd y disgyblion wedyn yn gwneud ymchwil manwl i’w gwlad neu eu sefydliad, gan ddyfeisiau datganiadau safbwynt a syniadau ar gyfer cytundebau rhyngwladol.

Nod y gynhadledd ei hun – a gynhelir fel arfer yn siambr cyngor un o’r llywodraethau lleol – yw bod cynrychiolwyr yn dod i gytundeb ar benderfyniad rhyngwladol ar y mater sy’n cael ei drafod, tra’n chwarae rhan eu gwledydd mor ddilys â phosi

Dod i gytundeb

Ymysg y pynciau sydd wedi cael eu trafod mewn cynadleddau Model y Cenhedloedd Unedig yn y gorffennol mae:
•Ymyrraeth Dyngarol
•Addysg i Bawb
•Diarfogi Niwclear
•Brwydro Clefydau
•Dyled Rhyngwladol
•Dyfodol Afghanistan

Beth am gael golwg ar benderfyniadau ar y pwnc “Diogelwch Bwyd Byd-eang”