Hanesion Heddwch Cudd

[efsbutton size=”” color_class=”” align=”left” type=”link” target=”false” title=”Hanes Cudd (Cymraeg)” link=”https://www.wcia.org.uk/wp-content/uploads/2021/09/Ymchwilio-a-Rhannu-eich-Hanes-Cudd-Hidden-Histories-Schools-Handbook-Welsh.pdf”]

Rhwng 2016 a 2018, bydd Cymru dros Heddwch yn cefnogi gwirfoddolwyrysgolion a grwpiau Women_War_Peace_Montagecymunedol ledled Cymru i ddarganfod hanesion heddwch cudd, ac i ddechrau rhannu eu straeon yn gyhoeddus er mwyn dod â stori ‘treftadaeth heddwch’ Cymru ynghyd. Mae’r adran ‘Hanesion Heddwch Cudd’ wedi cael ei pharatoi i’ch arwain drwy’r broses o chwilio a chynhyrchu eich prosiectau eich hunain, gyda dolenni at gyfeirnodau ac adnoddau defnyddiol ar-lein er mwyn ei gwneud hi mor rhwydd â phosibl – ac i ddatblygu sgiliau newydd, trosglwyddadwy, ar yr un pryd!

1. Cynllunio (penderfynu ar gynnyrch, pwnc a safbwynt – a chynllunio eich prosiect)

2. Ymchwilio (defnyddio adnoddau Ar-lein ac Oddi ar-lein)

3. Cofnodi (Cyfweld â phobl, Digideiddio dogfennau / delweddau neu recordio Hanesion Llafar)

4. Ysgrifennu / Golygu (ar gyfer Blogiau, erthygl nodwedd ar gyfer y cyfryngau lleol / cymunedol, traethodau neu draethodau hir)

5. Cyflwyno (Adrodd Straeon yn Ddigidol / ffilmiau byrion, pecynnau cyflwyno ac animeiddio)

6. Rhannu (Cyhoeddi ar-lein a hyrwyddo drwy’r Map Heddwch a’r Cyfryngau Cymdeithasol)

Canllaw Hanesion Heddwch Cudd ar gyfer Ysgolion a Grwpiau Cymunedol

Hidden-history-toolkit-screengrab

Mae’r Pecyn Offer yma ar gyfer athrawon a chydlynwyr cymunedol i’w ddefnyddio gyda grwpiau neu unigolion sy’n gwneud prosiectau hanesion heddwch cudd hunan-arwain.

Download (Cymraeg)

Download (English)