Gwobrau Heddychwyr Ifanc, 2021
Telerau ac Amodau
- Cynhelir seremoni wobrwyo genedlaethol ar lein yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar 9 Gorffennaf2021. Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau ar gyfer pob categori yw 11 Mehefin 2021 ac ni fydd unrhyw enwebiadau yn cael eu derbyn ar ôl y dyddiad yma. Dylid anfon unrhyw geisiadau at y Cydlynydd Ysgolion Heddwch i’r ebost canlynol: centre@wcia.org.uk
- Does dim rhaid prynu dim. Mae mynediad am ddim.
- Does dim modd cyfnewid gwobrau am eu gwerth ariannol nac am nwyddau eraill.
- Rhaid cyflwyno pob ymgais gyda ffurflen ymgeisio (gweler isod) neu ni fyddant yn gymwys.
- Rhaid anfon tystiolaeth ategol o gyflawniad gydag ymgeisiau (e.e. darnau o ysgrifennu, gwaith celf, portffolio, tystiolaeth ddigidol fel ffilm, podlediadau, YouTube, Facebook, trydariadau……)
- Bydd enillwyr yn cael eu dewis gan banel allanol o feirniaid gydag arbenigedd ym meysydd perthnasol pob categori.
- Bydd enillwyr ym mhob categori yn cael gwybod drwy e-bost neu dros y ffôn.
- Caiff gwobrau eu rhoi yn y Seremoni Wobrwyo; fel arall mae modd eu postio, ond dim ond i gyfeiriadau yng ngwledydd Prydain.
- Mae’n bosibl i unigolyn / grŵp gyflwyno ymgais mewn mwy nag un categori. Os byddwch yn ymgeisio mewn mwy nag un categori, rhaid i chi gwblhau ffurflen gais unigol ar gyfer pob categori.
- Nid yw staff, ymddiriedolwyr, interniaid na gwirfoddolwyr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, na beirniaid y gystadleuaeth, yn gymwys i gystadlu.
- Cadwn yr hawl i gyhoeddi enw’r enillwyr yn ein cylchlythyron ac ar ein gwefan.
- Rhaid i gystadleuwyr o dan 18 oed gael cydsyniad eu rhiant neu eu gwarcheidwad cyn cymryd rhan yn y gystadleuaeth.
- Nid yw Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn cymryd dim cyfrifoldeb am gyflwr y gwobrau.
- Dylai cystadleuwyr ofyn am ganiatâd rhieni neu warcheidwaid cyn ffilmio neu dynnu lluniau o blant. Bydd angen prawf o ganiatâd rhieni neu warcheidwaid cyn y gallwn ddangos unrhyw ymgais sy’n cynnwys delweddau neu fideo o blant.