Categorïau Gwobrau Heddychwyr Ifanc

Arwr/Arwyr Heddwch Ifanc y Flwyddyn:
Byddwch wedi bod yn weithgar dros heddwch, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol yn eich cymuned leol neu’n ehangach, a bydd eich gweithredu wedi ysbrydoli eraill – eich cyfoedion neu bobl hŷn neu iau na chi eich hunain.

Awdur / Awduron Heddwch Ifanc y Flwyddyn
Fe’ch gwahoddir i gyflwyno darnau gwreiddiol o waith sy’n ymwneud â themâu heddwch, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol mewn cyd-destun lleol neu fyd-eang. Gall cyfraniadau fod ar unrhyw ffurf, gan gynnwys barddoniaeth, ysgrifennu newyddiadurol (gan gynnwys blogio), cyfres effeithiol o drydariadau, bywgraffiadau, straeon, ac ati.

Artist/Artistiaid Heddwch Ifanc y Flwyddyn
Bydd y categori hwn yn dathlu mynegiant artistig gwreiddiol ar themâu heddwch, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol wedi’i greu gan blant / pobl ifanc yn unigol neu fel rhan o grŵp. Gallai’r rhain fod mewn amrywiaeth o ffurfiau, gan gynnwys paentiadau, cerfluniau, arddangosfeydd ffotograffig a ffilm. Gallant adlewyrchu materion cyfoes a syniadau am sut i greu byd mwy heddychlon a chynaliadwy.

Heddychwr / Heddychwyr Ifanc Digidol y Flwyddyn
Byddwch wedi defnyddio llwyfannau digidol yn gadarnhaol ac yn gyfrifol i godi ymwybyddiaeth am faterion yn ymwneud â heddwch, cyfiawnder a chydraddoldeb yn lleol neu’n fyd-eang ac wedi annog pobl i feddwl yn feirniadol ac i weithredu. Gall gynnwys perfformiadau byw a recordiwyd ar gyfer cynulleidfa ddigidol.

Dinasyddion Byd-eang Ifanc y Flwyddyn:
Byddwch wedi cysylltu â phobl ifanc mewn gwlad neu wledydd tramor, rhannu gwybodaeth a phrofiad ac yna gyd-weithio i ddangos gwybodaeth, dealltwriaeth a chyflawniadau mewn ffyrdd creadigol.

Dadansoddwr/Dadansoddwyr Byd-eang Ifanc y Flwyddyn:
Beth yw’r ffordd orau ymlaen ar gyfer ein planed? Sut medrwn symud ymlaen o COVID-19 mewn ffordd gadarnhaol sydd yn creu byd mwy cydweithredol, heddychlon a chynaliadwy? Byddwch wedi meddwl yn feirniadol am y materion hyn ac yn medru rhannu’ch dadansoddiad a’ch syniadau mewn ffordd greadigol a diddorol.